tridral

By tridral

Deunaw naw deg

Deunaw naw deg  ~ Eighteen ninety


“Photographing a culture in the here and now often means photographing the intersection of the present with the past.”
― David duChemin, (Within the Frame: The Journey of Photographic Vision)

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————u

Ar y ffordd i'r pentref mae tŷ ar gornel gyda '1890' yn y gwaith brics. Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni'n gwneud hyn y dyddiau hyn - rhoi'r flwyddyn yn y wal pan rydyn ni'n adeiladu tai. Tybed beth mae'r tŷ diweddara gyda blwyddyn yn y wal?

Mae dyddiadau yn ddiddorol. Ar y capel Methodistaidd Calfinaidd yn y pentref mae dyddiad yn 1866. Felly cafodd e ei adeiladu pedair ar hugain o flynyddoedd cyn cafodd y tai eu hadeiladu. Dydw i ddim yn dychmygu beth sut olwg oedd ar yr ardal bryd hynny. Dim tai a llawer o dir fferm, efallai. Ond dim 'Street View' i gadarnhau fy amheuon.

————— ————— ————— ————— ————— ————— ————

On the way to the village there is a house on a corner with '1890' in the brickwork. I don't think we do this these days - put the year in the wall when we build houses. I wonder what the latest house is with a year in the wall?

Dates are interesting. On the Calvinist Methodist chapel in the village there is a date of 1866. So it was built twenty four years before the houses were built. I can't imagine what the area looked like back then. No houses and lots of farmland, maybe. But no 'Street View' to confirm my suspicions.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Disgrifiad (Cymraeg): Tŷ yn yr Eglwys Newydd gyda'r dyddiad Deunaw Nawdeg
Description (English): A house in Whitchurch with the date Eighteen Ninety

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Comments
Sign in or get an account to comment.