tridral

By tridral

Rhy boeth i fod y tu allan

Rhy boeth i fod y tu allan ~ Too hot to be outside


“What dreadful hot weather we have! – It keeps one in a continual state of inelegance.”
― Jane Austen

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————.

Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n ddydd Gwener pan mae'r fan llysiau yn cyrraedd. Yn anffodus mae'r teulu Carter yn mynd ar eu gwyliau tan ganol mis Medi, felly dydyn ni ddim yn gwybod sut rydyn ni'n mynd i wybod pa ddiwrnod ydy e...

Roeddwn i'n ôl i weithio ar lyfrau heddiw. Rydw i'n fformatio llyfr Almaeneg fel e-lyfr. Bydd  yn cymryd peth amser ac rydw i'n dysgu tipyn bach o Almaeneg ar y ffordd.

Roedden ni'n meddwl am wneud gwaith yn yr ardd ond roedd y tywydd yn rhy boeth. Gobeithio cawn ni gyfle yfory.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

We know it's Friday when the vegetable van arrives. Unfortunately the Carter family are going on holiday until mid-September, so we don't know how we're going to know what day it is...

I was back to work on books today. I am formatting a German book as an e-book. It will take some time and I'm learning a bit of German along the way.

We thought about doing work in the garden but the weather was too hot. Hopefully we will have a chance tomorrow.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Disgrifiad (Cymraeg) : Blodyn o flaen y tŷ gyda fan llysiau yn y cefndir.

Description (English) : A flower in front of the house with a vegetable van in the background.

འགྲེལ་བཤད།(བོད་ཡིག) :  རླངས་འཁོར་། (rlangs 'khor) car/van


 ————— ————— ————— ————— ————— ————— ————

Comments
Sign in or get an account to comment.