tridral

By tridral

Yn adeiladu eich bywyd eich hunan

Yn adeiladu eich bywyd eich hunan ~ Building your own life


“When you develop an open and carefree state of being, that is to say, non-dualistic, nonsecurity-oriented, then the understanding of basic warmth arises. You are no longer involved with the conscious kindness of a pious and deliberate scene. You are able to give an open welcome since you have no territory of your own to preserve. The more you welcome others, the freer you become.”
― Chögyam Trungpa Rinpoche

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————.

Mae eich bywyd yn dod fel 'pecyn gwastad' a rhaid i chi ei adeiladu fe eich hunan, heb Allwedd Allen, heb gyfarwyddiadau.

Heddiw aeth Nor'dzin a fi i archwiliad meddygol gydag amrywiaeth o brofion, samplau gwaed, a.y.b. Dylen ni wybod y canlyniadau mewn ychydig o wythnosau. Y llynedd ffeindion nhw fod pwysedd gwaed uchel iawn gyda fi ac rydw i wedi cymryd moddion ers hynny.  Mae fy mhwysedd gwaed dan reol nawr, felly rydw i'n mynd yn fyw am byth, wel o leiaf tipyn bach yn hirach na heb y feddyginiaeth. Roedd yn dda i jôc gyda'r staff. Pan roedden nhw'n dweud am eu gwasanaethau, roeddwn i'n gallu gofyn "Dych chi'n cynnig gwasanaeth angladd hefyd?"

Wedyn aethon ni cwrdd â Daniel yn IKEA. Rydyn ni'n bob tro mwynhau crwydro i fyny ac i lawr yna ac yn prynu pethau defnyddiol. Hefyd cawson ni pryd yno, dim ond £7 am bryd i ddau, oedd hefyd arbed amser gartre. Roeddwn i'n chwilio am gwpwrdd i'w defnyddio fel cabinet cysegr (shrine cabinet) yn y cwt myfyrio. Rydyn ni'n meddwl ein bod ni wedi ffeindio rhywbeth ond rhaid i fi fesur y lle. Bydd pecyn gwastad yn syniad da oherwydd rydw i'n gallu ei adeiladu yn ei le sy'n well na chario cwpwrdd i fyny'r ardd.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Your life comes as a 'flat pack' and you have to build it yourself, without an Allen Key, without instructions.

Today Nor'dzin and I went to a medical examination with a variety of tests, blood samples, etc. We should know the results in a few weeks. Last year they found I had very high blood pressure and I have been on medication ever since. My blood pressure is under control now, so I'm going to live forever, well at least a little bit longer than without the medicine. It was good to joke with the staff. When they were talking about their services, I was able to ask "Do you also offer a funeral service?"

Then we went to meet Daniel at IKEA. We always enjoy wandering up and down there and buying useful things. We also had a meal there, only £7 for a meal for two, which also saved time at home. I was looking for a cupboard to use as a shrine cabinet in the meditation hut. We think we have found something but I have to measure the space. A flat pack will be a good idea as I can build it in place which is better than carrying a cupboard up to the garden.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Disgrifiad (Cymraeg) : Pensaernïaeth IKEA, melyn a glas

Description (English) : IKEA architecture, yellow and blue

འགྲེལ་བཤད།(བོད་ཡིག) : ཁང་པ་སེར་པོ་དང་སྔོན་པོ། (khang pa ser po dang sngon po/) Yellow and blue building

 ————— ————— ————— ————— ————— ————— ————

Comments
Sign in or get an account to comment.