Ysgol

Ysgol ~ Ladder, School

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Yn ffodus roedd y tywydd yn heulog yn y prynhawn a ches i gyfle trwsio tyllau yn do’r garej. Mae'r 'garej' yn ystafell myfyrdod nawr, felly mae'n eithaf pwysig. Gwnes i ffeindio nifer o sgriwiau sydd angen eu disodli.  Rydw i wedi trio fy ngorau i drwsio'r problemau ac rydw i'n gobeithio bydd yr ystafell yn gallu dal yn sych nawr.

Gyda llaw, mae'r gair 'Ysgol' yn ddiddorol. Yn Saesneg mae'n 'Ladder' neu 'School'. Pam?  Mae'n dod o ddau le gwahanol. Ysgol ('School') yn dod o Ladin 'schola' (Scholar ayyb). Ysgol, ('Ladder') yn dod o Ladin 'scāla' (Scale, fel yn Saesneg 'to scale a mountain'). Mae geiriau yn hen.  Maen nhw wedi dod i lawr i ni dros filoedd o flynyddoedd.

Yn y noswaith, cyn i ni gael cinio, aeth Nor'dzin a fi allan i redeg gyda’n gilydd. Rydyn ni'n hapus iawn ein bod ni'n gallu rhannu'r profiad nawr
.

————— ————— ————— ————— ————— ————— —————

Fortunately the weather was sunny in the afternoon and there was a chance to repair holes in the roof of the garage. The 'garage' is a meditation room now, so it's quite important. I found a number of screws that need to be replaced. I've tried my best to fix the problems and I hope the room will stay dry now.

By the way, the word 'School' is interesting. In English it is 'Ladder' or 'School'. Why? It comes from two different places. Ysgol ('School') comes from Latin 'schola' (Scholar etc). Ysgol, (Ladder) comes from Latin 'scāla' (Scale, as in English 'to scale and mountain'). Words are old. They've come down for us over thousands of years.

In the evening, before we had dinner, Nor'dzin and I went out to run together. We are very happy that we can share the experience now.

Comments
Sign in or get an account to comment.