Bydded eich cariad yn ddiragrith
Bydded eich cariad yn ddiragrith; Casewch ddrygioni; Glynwch wrth ddaioni; Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel brawdoliaeth; Rhowch y blaen i’ch gilydd mewn parch.
-- Rhufeiniaid, 12: 9-21
Let love be genuine; hate what is evil, hold fast to what is good; Love one another with mutual affection; outdo one another in showing honour.
-- Romans 12: 9-21
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Heddiw siaradodd Nor'dzin o flaen y gynulleidfa yn yr Eglwys Gadeiriol Llandaf fel rhan o'r seremoni am y Canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, 11 Tachwedd 1918.
Roedd llawer o bobol yn yr Eglwys Gadeiriol - breindal, urddasiaethau dinesig, gwleidyddion, clerigwyr, milwrol - a ni.
Clywon nhw Nor'dzin yn dweud:
"Wrth ddyheu am heddwch / Boed inni beidio â gorffwys nes bod diwedd ar ryfel ac anghydfod / Boed inni anrhydeddu'r miliynau a laddwyd yn y rhyfel drwy ddod yn heddychwyr gweithgar, ymroddedig, heddiw / Boed i gariad gael ei gynnau ynom / inni oleuo'r byd a bod yn gyfrwng i heddwch."
Rydyn ni'n gobeithio bod pawb yn gallu ffeindio heddwch yn eu calonnau, a ffordd i osgoi trais yn y dyfodol.
————— ————— ————— ————— ————— ————— —————
Nor'dzin spoke today in front of the congregation at Llandaff Cathedral as part of the ceremony for the end of World War I, 11 November 1918.
There were many people in the Cathedral - royalty, civic dignitaries, politicians, clergy, military - and us.
They heard Nor'dzin say
"In the desire for peace / May we be restless until war and conflict cease / May we honour the millions killed in the war by becoming active, dedicated peacemakers in our time. / May love be kindled within us that we may be a light in the world and a channel for peace. "
We hope everyone can find peace in their hearts, and a way to avoid violence in the future.
Comments
Sign in or get an account to comment.